Cyffredinol
- Ar ôl i chi brynu tocyn, ni roddir ad-daliad oni bai bod y perfformiad yn cael ei ganslo.
- Ni ellir ail-werthu tocynnau am elw. Bydd hyn yn gwneud y tocyn yn annilys.
- Mae’n bosib y bydd angen prawf o gymhwyster ar gyfer tocynnau gostyngol i gael mynediad i berfformiad.
- Cedwir yr hawl i newid prisiau tocynnau sydd heb eu gwerthu, a chyflwyno a thynnu gostyngiadau, cynigion arbennig a chonsesiynau.
- Cedwir yr hawl i newid y rhaglen a chael artistiaid eraill lle bo amgylchiadau'n gwneud hynny'n ofynnol.
- Gwaherddir recordio (naill ai sain neu fideo) unrhyw ran o unrhyw berfformiad oni awdurdodir chi'n benodol i wneud hynny.
- Ni chaniateir offer ffotograffiaeth na fideo mewn unrhyw berfformiad, heblaw offer y Theatr ei hunan neu trwy ganiatâd Theatr Felinfach a’r perfformwyr. Ni chaniateir chwaith dynnu llun gyda ffôn symudol.
- Cedwir yr hawl i wrthod mynediad.
Archebu Tocynnau ac Ad-daliadau
Wrth archebu tocynnau, rhaid talu a chasglu o fewn pum diwrnod. Ni allwn sicrhau cadw’r tocynnau ar ôl hynny. Nid oes modd ad-dalu tocynnau. Fe wnawn ein gorau i newid tocynnau am berfformiad mwy cyfleus o’r un sioe neu ffilm, ond ni allwn addo bydd hyn yn bosibl bob tro.
Archebu Tocynnau Ar-lein
I hwyluso’ch profiad yn y Theatr, cofnodwch eich rhif archeb wrth brynu tocynnau ar-lein os gwelwch yn dda. Bydd y rhif archeb ar y darn papur y gallwch ei argraffu fel prawf o bwrcasiad neu bydd ei ddangos ar unrhyw declyn symudol, megis ffôn neu dabled yn dderbyniol.
Gostyngiadau
- Cynigir tocyn am ddim i bob cynhyrchiad am bob 10 tocyn a brynir. Cofiwch hefyd bod modd arbed mwy yn ystod y flwyddyn wrth ymaelodi fel Cyfaill i’r Theatr. (Holwch yn y Swyddfa Docynnau am fwy o fanylion).
- Ar gyfer tocyn plentyn, rhaid i chi fod o dan 18 oed ar ddyddiad y perfformiad. Caiff plant dan 2 oed fynediad am ddim.
- Ar gyfer tocyn myfyriwr, rhaid i chi fod mewn addysg lawn-amser ar ddyddiad y perfformiad.
- Ar gyfer tocyn pensiynwr, rhaid i chi fod yn 60 oed neu hŷn ar ddyddiad y perfformiad. Cofiwch hefyd bod mod di chi gael gostyngiad pellach os ydych yn Gyfaill i’r Theatr.
- Caiff gofalwr sy'n dod gyda pherson anabl cofrestredig i berfformiad fynediad am ddim trwy gynllun Hynt - hyperlink
- Cedwir yr hawl i gyflwyno a dileu gostyngiadau. Efallai na fydd gostyngiadau ar gael ar gyfer pob perfformiad.
Cynigion Arbennig
- Mae’r cynigion yn amodol ar fod ar gael.
- Nid yw’r cynnig arbennig yn berthnasol ond i’r digwyddiad a nodir yn glir yn y cynnig, ac nid yw’n cynnwys unrhyw gynnig na ddigwyddiad arall.
- Rhaid dangos tocyn neu gôd arbennig neu lythyr dilys, ynghyd â phrawf o gymhwyster, er mwyn i’r cynnig fod yn ddilys.
- Ni ellir defnyddio’r cynnig hwn ochr yn ochr ag unrhyw gynnig arall, ac mae’n berthnasol i docynnau pris llawn, oni nodir yn wahanol.
- Ni ellir defnyddio’r cynnig hwn yn ôl-weithredol ar docynnau a brynwyd eisoes.
- Ni chynigir dewis ariannol amgen.
- Mae telerau ac amodau prynu safonol Theatr Felinfach ar gyfer prynu, gwerthu a mynediad yn sefyll.
Tocynnau Rhodd
Anrheg delfrydol ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau! Ar gael mewn gwerthoedd amrywiol a gallwch eu prynu drwy’r Swyddfa Docynnau. Ni ellir cyfnewid tocyn rhodd am arian.
Oriau Agor y Swyddfa Docynnau
Mae’r Swyddfa Docynnau ar agor o 08:45yb – 5:00yp o ddydd Llun i ddydd Iau a hyd 4:30yp ar ddydd Gwener. Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael y tu allan i oriau swyddfa. Gallwch hefyd brynu tocynnau ar-lein 7 diwrnod o’r wythnos - www.theatrfelinfach.cymru
Yr Adeilad
Mae Theatr Felinfach yn hygyrch i bawb.
Hwyrddyfodiaid
Er mwyn tarfu cyn lleied ag sy’n bosibl ar gwsmeriaid eraill a pherfformwyr, cedwir yr hawl i ofyn i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr i aros tan fydd amser cyfleus i roi mynediad i’r awditoriwm. Ni fydd pobl sy'n colli rhannau o berfformiadau am eu bod yn hwyr yn cael ad-daliad.
Cadwch mewn Cysylltiad
Sicrhewch eich bod â’ch bys ar y botwm o ran y newyddion diweddaraf a’ch bod yn ein HOFFI a’n DILYN ar Facebook a Twitter. Sicrhewch hefyd eich bod yn cofrestru i dderbyn ein e-newyddlen newydd a fydd yn cael ei danfon allan yn achlysurol i Gyfeillion y Theatr