Eisiau gwylio dramâu Newydd sbon…?
Wel, ymunwch â Theatr Troed-y-rhiw a Theatr Felinfach am ein Gŵyl Ddrama.
Chi’n cofio prosiect ‘o syniad i sgript’? Wel rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod y dramâu bellach ar ein llyfrgell Dramâu ac rydym yn gyffrous i lwyfannu rhai o’n dramâu i chi!
Bydd hi'n noson a hanner!
‘Adar o'r Unlliw’ Gan Elain Roberts
‘Miss’ Gan Bethan Jones-Ollerton
Tocynnau
Pris - £10
Drama fer gan Mari Emlyn
Mae Tegid (Llion Williams) a Hudson (Rhodri Evan) wedi treulio pob Eisteddfod Genedlaethol efo’i gilydd (ar wahân i un) ers eu dyddiau coleg, ddiwedd y 70au.
Mae wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fel bywyd: mae’n hedfan heibio, a’r dydd Sadwrn cyntaf yn ddydd Sadwrn olaf cyn i ni droi.
Ymunwn â’r ddau yn nhafarn yr Eagles ar brynhawn Sadwrn olaf a gwlyb Eisteddfod Llanrwst.
Mae’r ddau, fel pob blwyddyn arall, wedi treulio’r holl wythnos yn hiraethu am hen ‘lejands’ o eisteddfodau neu’n cynllunio’r sesh fawr ‘hilêriys’ nesaf. Tueddu i edrych yn ôl neu edrych ymlaen wna Tegid, heb flasu’r presennol a phob eisteddfod yn un niwl. Ond a all Hudson ei berswadio i fwynhau’r rŵan hyn, cyn ei bod hi’n rhy hwyr?
Mae’r gorffennol a’r presennol yn gymdogion agos a phob Eisteddfod yn ein hatgoffa o’r bobl fu’n rhannu’r profiad efo ni. Tra pery’r Eisteddfod mae’r bobl fu efo ni ar un adeg yn rhan o’n stori ni ac yn dal yn byw efo ni.
CANLLAW OED 12+ (AMBELL I REG)
Tocynnau
Pris - £15
Cyfieithiad Gareth Miles o ‘Le Dieu du Carnage’ gan YasminaReza
2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast!
Mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt - mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc.
Mae’r cyfarfod yn cychwyn yn o gall, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i amser fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwy fwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr!
Mae chwarae’n troi’n chwerw go iawnyn y ddrama ddoniol, ddeifiol hon
Canllaw Oed: 14+
Tocynnau
Pris - £15 | £14
Wrth i gamerâu Hollywood gyrraedd Dyffryn Aeron – mae’r cyffro a’r potensial i serennu yn taflu llwch i lygaid criw Dyffryn Aeron – ac wrth iddynt fod yn rhan o ffilm i gofio’r cyfansoddwr o Ferthyr, Joseph Parry – cânt eu tynnu i ganol cythrwfl y Gweithwyr a’r Meistri Haearn Merthyr a hyd yn oed ymhellach... Ond o leia maen nhw wedi dianc rhag ddrygioni criw Mr Ŵr, Ben Ake a Gwenwyn Ŵr – neu a ydyn nhw?
Tocynnau
Pris - £10 | £8 | £6
Dewch i ddathlu'r 'dolig mewn steil yma yn Theatr Felinfach gyda 50 Shêds o Santa Clôs!
Dawnsio, joio, yfed a dathlu - fydd y noson yn siŵr o roi chi yn yr hwyliau Nadoligaidd gyda tiwns gan Rhys Taylor a'r band!
Noson ddelfrydol ar gyfer parti gwaith neu dewch a'ch teulu a ffrindiau!
Tocyn VIP: £25 (Sedd steil cabaret ar y llwyfan gan gynnwys diod croeso a gwasanaeth bwrdd)
Tocyn £18: (Sedd yn yr awditoriwm ond lle i ddawnsio yn y blaen!)
Addas ar gyfer teuluoedd!
Tocynnau
Yma yn Theatr Felinfach mae ein awditoriwm yn eistedd 242 wedi ei osod ar ffurf oledd.
Mae hyn yn cynnwys pedwar gofod hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Oriau'r Swyddfa Docynnau:
Llun i Gwener
9:30yb - 4:30yp
01570 470697
Mae gwasanaeth peiriant ateb ac e-bost ar gael tu allan i oriau agor.
Gallwch hefyd archebu tocynnau ar-lein 7 diwrnod yr wythnos.
theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk