Mae Theatr Felinfach yn ymgeisio i fod yn hygyrch i bawb, ond mae bob amser lle i wella a byddem yn gwerthfawrogi eich adborth.
Wrth gyrraedd y Theatr mae yna barcio anabl a drws awtomatig i ddod fewn ac allan o’r adeilad.
Mae'r Swyddfa Docynnau a’r Lolfa ar y llawr gwaelod lle ceir hefyd siop gydol perfformiadau. Mae'r Lolfa yn arwain i'r awditoriwm, toiled anabl ac ystafelloedd gwisgo.
Mae gan y Theatr llwyfan eang ac awditoriwm 242 sedd sydd wedi ei gosod ar ffurf oledd gyda 4 man cadair olwyn yn y blaen a dolen sain (hearing loop).