Gŵyl newydd sbon i arddangos y talent anhygoel sy'n bodoli ar draws ein cymunedau gwledig. Mae'r ŵyl yn darparu llwyfan i gerddorion lleol, cwmnïau theatr, grŵpiau dawns, artistiaid a busnesau lleol, gan eu helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd wrth ddod
â phobl ynghyd i ddathlu'r iaith Gymraeg, diwylliant lleol a chreadigrwydd.
Mae enw'r ŵyl yn adlewyrchu ein natur wledig, a faint o greadigrwydd a thalent sydd yng 'nghanol unman'.