Tic Toc

10:00 yb

Sesiynau stori, dawns a chân yn y Gymraeg i blant 0-3 oed a'u rhieni | gwarchgeidwaid ar fore Gwener.

£3.50 y sesiwn
£1 am bob plentyn ychwanegol

Am wybodaeth pellach cysylltwch â:
sioned.thomas@ceredigion.gov.uk
01570 470697

Symud a Sŵn

Clwb symud a drama i blant 4-6 oed ar ddyddiau Mawrth o 4:00 - 4:45.
Cyfle i ddysgu sgiliau ac arddulliau corfforol, symud amrywiol a drama.

£3.50 y sesiwn
£1 am bob plentyn ychwanegol

I gofrestru cysylltwch a:
theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk

Dramatic

Clwb Drama i blant 7-11 oed

Cyfle arbennig i blant gwrdd am awr o ddrama ar brynhawn Llun rhwng 4:00-5:00 i chwarae gemau, ymarferion creadigol, gwaith byrfyfyr, adeiladu cymeriad a chreu golygfa er mwyn datblygu sgiliau, magu hyder a chreu ffrindiau newydd.

Am wybodaeth pellach cysylltwch â:
theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk
01570 470697

Ysgol Berfformio

Cyfle i fagu sgiliau newydd ac i gael amryw o ddosbarthiadau meistr gan ymarferwyr proffesiynol.

Pob nos Iau

7-11 Oed (cynradd) 4:30 - 5:30yh
11-18 Oed (uwchradd) 5:45 - 6:45yh
£30 am hanner tymor
(£5 gostyngiad i bob brawd neu chwaer)

I gofrestru cysylltwch â:
sioned.thomas@ceredigion.gov.uk

Hwyl a Hamdden

Sesiynau Cymdeithasol ar gyfer unigolion 50+

Cyfle i gymdeithasu bob prynhawn Mercher rhwng 1:30 a 3:00 gyda sesiynau yn amrywio o siaradwyr gwadd, gweithgareddau a theithiau.

Am wybodaeth pellach cysylltwch â:
carys.evans@ceredigion.gov.uk

Gwirfoddoli

Mae Theatr Felinfach yn edrych am wirfoddolwyr newydd!

Eisiau profiad o weithio ym myd y Theatr?

Dyma gyfle gwych i ennill sgiliau newydd, derbyn hyfforddiant a mwynhau!

Am wybodaeth pellach cysylltwch â ni:

theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk
01570 470697

Hawlfraint 2022 Theatr Felinfach