Dewch i ymuno a ni mewn noson steil cabaret ym mis Medi!
O 'Bant a ni yn y Siarabang-bang' i 'Wishgit Wishgit ffwrdd a ni mae'r Nadolig yn nesáu', byddwn yn ailymweld a rhai o glasuron cerddorol Pantomeim Theatr Felinfach.
Cyfle i glywed rhai o hanesion difyr a dwl cefn llwyfan yn nghwmni rhai o gymeriadau a chriw'r Panto dros y blynyddoedd!
Tocynnau
Pris - £10 | £8 | £6
8:00 yh
Rhodri Heno, Yvonne Tywydd, Alun Ffermio - wotsiwch mas!
Ma' criw Hyd y Pwrs nol! Yn fyw! Yn y Vale! Sgetsus teledu, Sgetsus dim-hawl-eu-dangos-ar-deledu. A hyd-yn-oed sgetsus newydd sbon (ambell un). Dishgwl mla'n!
Hyd y Pwrs yn Fyw! - Iwan John, Aeron Pughe a ffrindie (jwst)
Noson yn rhan o Talent mewn Tafarn (Yr Egin/Eisteddfod Genedlaethol Cymru)
Canllaw oed: 18+
Tocynnau
Pris - £10
Cyfieithiad Angharad Tomos o Blackthorn gan Charley Miles.
Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae'r ddau'n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae'r clymau'n dechrau datod.
Mae cefn gwlad yn newid a'r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad. Mae'r ddrama yma'n siŵr o daro tant gyda'n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw.
Canllaw Oed: 14+ (Defnydd o iaith gref)
Tocynnau
Pris - £14 | £13 | £12
Noson fywiog a hwyliog o gerddoriaeth gyda'r band gwerin enwog Ar Log a'r dihafal Dewi Pws.
Tocynnau
Pris - £12 | £11 | £10
Yma yn Theatr Felinfach mae ein awditoriwm yn eistedd 242 wedi ei osod ar ffurf oledd.
Mae hyn yn cynnwys pedwar gofod hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Oriau'r Swyddfa Docynnau:
Llun i Gwener
9:30yb - 4:30yp
01570 470697
Mae gwasanaeth peiriant ateb ac e-bost ar gael tu allan i oriau agor.
Gallwch hefyd archebu tocynnau ar-lein 7 diwrnod yr wythnos.
theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk